Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth pobl leol i gadw ein drysau ar agor, felly byddem wrth ein bodd pe baech yn gwirfoddoli, codi arian, neu gyfrannu heddiw.
Mae miloedd o bobl hael sydd wedi cael eu heffeithio gan salwch terfynol ac a gefnogir gan Marie Curie yn cyfrannu i helpu i ariannu ein hosbis a'r staff sy'n gweithio ynddynt.
Mae gwirfoddolwyr mor bwysig i waith Marie Curie. Ni allem fod ar gael i'r holl bobl yr ydym yn eu cefnogi hebddynt.O yrwyr i therapyddion harddwch, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch roi o'ch amser i wirfoddoli ar gyfer ein hosbis, p'un a oes gennych ychydig funudau neu ychydig ddyddiau'r mis.
Mae ein cefnogwyr gwych yn trefnu eu digwyddiadau codi arian eu hunain i ni drwy gydol y flwyddyn: o arddangosfeydd celf i flasu gwin, o arwerthiannau i deithiau cerdded.
Os hoffech ymuno a chynllunio'ch ymgyrch codi arian eich hun ar gyfer eich hosbis leol, dewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni; o syniadau dyfeisgar i gyngor cynllunio.
Mae ymuno â grŵp codi arian yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd yn eich cymdogaeth, cyfranogi i’ch cymuned, rhannu profiadau newydd a chael hwyl wrth godi arian hanfodol ar gyfer eich Hosbis Marie Curie leol.